Brasil

gwlad fwyaf De America
(Ailgyfeiriad o Brazil)

Gwlad fwyaf De America yw Brasil (Portiwgaleg: Brasil), Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol[1][2] (Portiwgaleg: República Federativa do Brasil). Wrwgwái, Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig yw'r gwledydd cyfagos, gyda Chefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.

Brasil
Gweriniaeth Ffederal Brasil
República Federativa do Brasil
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth seciwlar, rheol un gyfraith i bawb, gwlad, gwladwriaeth ffederal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCaesalpinia echinata Edit this on Wikidata
PrifddinasBrasília Edit this on Wikidata
Poblogaeth203,062,512 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Portiwgal)
29 Awst 1825 (Cydnabod)
15 Tachwedd 1889 (Gwladwriaeth)
AnthemHino Nacional Brasileiro Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−02:00 Edit this on Wikidata
NawddsantOur Lady of Aparecida Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, Ibero-America, De De America, De America Edit this on Wikidata
GwladBrasil Edit this on Wikidata
Arwynebedd8,515,767 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Afon Amazonas, Afon Paraná, Afon São Francisco Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Ariannin, Bolifia, Guyane, Gaiana, Paragwâi, Periw, Swrinam, Wrwgwái, Feneswela, Colombia, Ffrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14°S 53°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffedral Brasil Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynghrair Genedlaethol Brasil Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Brasil Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Brasil Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,649,623 million, $1,920,096 million Edit this on Wikidata
ArianBrazilian real Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.74 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.754 Edit this on Wikidata

Taleithiau

golygu

Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod ar faner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith.

Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:

1TalaithTalfyriadPobl. (2008)Arwynebedd (km²)Prifddinas
1AcreAC692.000153.149Rio Branco
2AlagoasAL3.173.00027.933Maceió
3AmapáAP626.000143.453Macapá
4AmazonasAM3.399.0001.577.820Manaus
5BahiaBA14.561.000567.295Salvador
6CearáCE8.472.000146.348Fortaleza
7Espírito SantoES3.448.00046.184Vitória
8GoiásGO5.870.000341.289Goiânia
9MaranhãoMA6.400.000333.365São Luís
10Mato GrossoMT3.010.000906.806Cuiabá
11Mato Grosso do SulMS2.372.000358.158Campo Grande
12Minas GeraisMG19.904.000588.383Belo Horizonte
13ParáPA7.367.0001.253.164Belém
14ParaíbaPB3.794.00056.584João Pessoa
15ParanáPR10.605.000199.709Curitiba
16PernambucoPE8.745.00098.937Recife
17PiauíPI3.164.000252.378Teresina
18Río de JaneiroRJ15.685.00043.909Rio de Janeiro
19Rio Grande do NorteRN3.153.00052.796Natal
20Rio Grande do SulRS10.860.000269.153Porto Alegre
21RondôniaRO1.519.000238.512Porto Velho
22RoraimaRR421.000225.116Boa Vista
23Santa CatarinaSC6.091.00095.442Florianópolis
24São PauloSP40.764.000248.808São Paulo
25SergipeSE2.030.00021.910Aracaju
26TocantinsTO1.303.000278.420Palmas
27Distrito FederalDF2.526.0005.822Brasilia

Daearyddiaeth Brasil

golygu
Merch llwyth yr Ashaninka.

O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, Tsieina a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Wrwgwái, yr Ariannin, Paragwâi, Bolifia, Periw, Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sef Tsile ac Ecwador.

Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig Afon Negro.

Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno â hi.

Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.

Hanes Brasil

golygu

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16g hyd y 19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.

Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.

Ar 7 Medi 1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny.

Demograffeg Brasil

golygu

Dinasoedd mwyaf Brasil yw:

Gwleidyddiaeth Brasil

golygu

Iaith a Diwylliant

golygu

Iaith

golygu

Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.

Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg.

Diwylliant

golygu

Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.

O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forró, frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.

Crefydd

golygu

Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill.

Chwaraeon

golygu

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o bêl-droedwyr Brasil yw Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm.

Bwyd a diod

golygu

Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. I'w weld ar y gwefan cenedlaethol
  2. Grids & Datums – Federative Republic of Brazil. Ionawr 2009. http://www.asprs.org/resources/GRIDS/01-2009-brazil.pdf. Adalwyd 2010-05-09.
  3. Jeff Neilson, Bill Pritchard (26 Gorffennaf 2011). Value Chain Struggles. John Wiley & Sons. t. 102.

Dolenni allanol

golygu