Cynnig cydsyniad deddfwriaethol

Mae Cynnig cydsyniad deddfwriaethol (a elwir hefyd yn Gynnig Sewel neu'n Gonfensiwn Sewel yn yr Alban) yn gynnig a gaiff ei basio naill ai gan Senedd yr Alban, Senedd Cymru, neu Gynulliad Gogledd Iwerddon, ar fater sydd eisoes wedi'i ddatganoli. Mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cydsyniad y tair llywodraeth arall cyn y gall basio'r deddfwriaeth dan sylw. Rhoddir, neu wrthodir, cydsyniad o'r fath gan y tair Senedd drwy'r hyn a elwir yn gynigion cydsyniad deddfwriaethol (legislative consent motions).

Hyd at Hydref 2020 roedd y tair gwlad wedi gwrthod sawl Cynnig cydsyniad deddfwriaethol (gweler y tabl isod).

Cefndir

golygu

Datganolwyd llawer o faterion sy'n ymwneud â deddfwriaeth yr Alban i Senedd yr Alban pan basiwyd Deddf yr Alban 1998. Mae Senedd y DU yn dal ei gafael ar sofraniaeth seneddol a chaiff ddeddfu ar unrhyw fater, gyda neu heb ganiatâd y seneddau a'r cynulliad datganoledig.

Enwyd y cynigion yn yr Alban ar ôl yr Arglwydd Sewel, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Alban ar y pryd a gyhoeddodd y polisi yn Nhŷ’r Arglwyddi yr un pryd a llunio Deddf yr Alban 1998. Gan nodi bod y Ddeddf yn cydnabod sofraniaeth Senedd Prydain, dywedodd Sewel y byddai Llywodraeth EM "yn disgwyl sefydlu confensiwn na fyddai San Steffan fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig yn yr Alban heb gydsyniad Senedd yr Alban".

Nid oes gan y llywodraethau datganoledig unrhyw lais ffurfiol o ran sut mae Senedd Prydain yn deddfu ar faterion heb eu datganoli.

Defnydd

golygu

Mae dau ddefnydd ar gyfer cynnig cydsyniad deddfwriaethol:

  1. Pan fydd Senedd y DU yn ystyried deddfwriaeth sy'n ymestyn yn unig i Gymru a Lloegr, ac mae Senedd yr Alban, gan gytuno â'r darpariaethau hynny, yn dymuno i Senedd y DU eu hymestyn i'r Alban. Mae hyn yn arbed yr angen i Senedd yr Alban basio deddfwriaeth debyg ar wahân.
  2. Pan fydd San Steffan yn ystyried deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r Alban ond sy'n ymwneud â materion datganoledig a materion neilltuedig, lle byddai fel arall yn angenrheidiol i Senedd yr Alban hefyd i ddeddfu.

Statws cyfreithiol

golygu

Nid yw'r confensiwn lle mae llywodraeth y DU yn defnyddio'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol hyn yn ei rwymo'n gyfreithiol. Fe'i cynhwyswyd yn wreiddiol mewn "memorandwm cyd-ddealltwriaeth" rhwng llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig.[1] Mae'r ddogfen honno'n nodi mewn nodyn esboniadol na fwriedir iddi fod yn gyfreithiol rwymol, ac mae'r paragraff sy'n delio â'r confensiwn yn nodi'n glir bod Senedd y DU yn cadw'r hawl i ddeddfu ar unrhyw fater, p'un a yw wedi'i ddatganoli ai peidio.

Ers hynny, fodd bynnag, mae'r confensiwn wedi'i ymgorffori yn y gyfraith yn yr Alban a Chymru. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynhwysiant hwn, nid yw'r datganiadau yn gyfreithiol rwymol ar Senedd y DU .

Deddf yr Alban 2016

golygu

Yn 2016 pasiodd Senedd y DU Ddeddf yr Alban 2016 a ddiwygiodd Ddeddf yr Alban 1998 i gynnwys cyfeiriad cyfreithiol eglur a phenodol at gonfensiwn Sewel, fel y'i gelwir yn yr Alban. Mae Adran 2 Deddf 2016 yn darllen fel a ganlyn:

2 Confensiwn Sewel

Yn adran 28 o Ddeddf yr Alban 1998 (Deddfau Senedd yr Alban) ar y diwedd ychwanegwch—

"(8) Ond cydnabyddir na fydd Senedd y Deyrnas Unedig fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad Senedd yr Alban."

Deddf Cymru 2017

golygu

Yn 2017 pasiodd Senedd y DU Ddeddf Cymru 2017 a ddiwygiodd Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys cyfeiriad cyfreithiol penodol at ddeddfwriaeth San Steffan ar faterion a oedd wedi’u datganoli i Gynulliad Cymru . Mae Adran 2 Deddf 2017 yn darllen fel a ganlyn:

2 Confensiwn ynghylch y Senedd yn deddfu ar faterion datganoledig

Yn adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

"(6) Ond cydnabyddir na fydd Senedd y Deyrnas Unedig fel rheol yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Cynulliad."

Caiff manylion am sut y mae'r Senedd yn ymdrin â chynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hamlinellu yn rheol sefydlog 29.

Rhestr o gynigion cydsyniad deddfwriaethol a wrthodwyd

golygu
DyddiadCorff datganoledigDeddfwriaethPleidleisiau drosPleidleisiau yn erbynCamau dilynol
8 Chwefror 2011Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011Tynnwyd pwerau Llywodraeth Cymru i benodi aelodau ar baneli

heddlu a throsedd, fel mai Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU yn unig a allai eu penodi.

22 Rhagfyr 2011Senedd yr AlbanDeddf Diwygio Lles 2012 [2]
18 / 129
100 / 129
Rhoddwyd yr hawl i weinidogion yr Alban weinyddu'r buddion Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Bersonol newydd.
29 Ionawr 2013Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013Yn dilyn hynny, pasiodd Cynulliad Cymru ei ddeddfwriaeth ei hun, Deddf Sector Amaeth (Cymru) 2013, ac fe'i cyfeiriwyd i Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig, a ganfu fod y Deddfau yn delio â chymwyseddau datganoledig.
26 Tachwedd 2013Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Plismona 2014Honnodd Llywodraeth y DU fod y newid mewn cymwyseddau datganoledig oherwydd diddymu ac ailosod gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ganlyniadol ac nad oedd angen caniatâd arnynt, ond yng ngoleuni gwrthod cymhwysedd deddfwriaethol, yr eithriad ar gyfer y gorchmynion amnewid oedd i "ddehongli'n gul".
12 Tachwedd 2013Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014Eithriwyd y byrddau draenio mewnol (''internal drainage board'') trawsffiniol, a oedd bron yn gyfan gwbl yn gweithredu yng Nghymru, o'r cynllun archwilio yng Nghymru.
3 Chwefror 2015Cynulliad Cenedlaethol CymruBil Arloesi Meddygol 2014–2015Ni phasiodd Bill Dŷ’r Cyffredin oherwydd i’r Senedd gael ei gohirio (''prorogued'') cyn etholiad cyffredinol 2015.
7 Rhagfyr 2015Cynulliad Gogledd IwerddonDeddf Menter 2016Ni roddwyd uchafswm ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.
26 Ionawr 2016Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Undebau Llafur 2016Yn dilyn hynny, pasiodd Cynulliad Cymru ei ddeddfwriaeth ei hun, sef Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017. Ni chyfeiriodd llywodraeth y DU ef i'r Goruchaf Lys.

Yn yr un modd, roedd Llywodraeth yr Alban wedi ceisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond dyfarnodd y Llywydd fod y cynnig yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yn unig.

15 Mawrth 2016Cynulliad Cenedlaethol CymruDeddf Tai a Chynllunio 2016Tynnwyd newidiadau i orchmynion prynu gorfodol o'r bil.
15 Mai 2018Senedd yr AlbanDeddf yr Undeb Ewropeaidd (Tynnu'n Ôl) 2018
30 / 129
93 / 129
Deddfwriaeth gan y Senedd heb newid.
7 Hydref 2020Senedd yr Alban[3]Mesur y Farchnad Fewnol[4]
28 / 129
90 / 129
Deddfu gan Senedd y DU heb newid.
30 Rhagfyr 2020Senedd yr AlbanBil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020[5][6]
30 / 129
92 / 129
Deddfwriaeth gan y Senedd heb newid.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. rgel
  2. Brexit: Devolution and legislative consent
  3. Report, Official (24 Ionawr 2014). "Official Report". archive2021.parliament.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-05. Cyrchwyd 2022-08-01.
  4. Report, Official (24 Ionawr 2014). "Official Report". archive2021.parliament.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-05. Cyrchwyd 2022-08-01.
  5. "Brexit deal rejected - gov.scot". www.gov.scot. Cyrchwyd 2020-12-30.
  6. Report, Official (24 Ionawr 2014). "Official Report". archive2021.parliament.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-04. Cyrchwyd 2022-08-01.

Dolenni allanol

golygu