Dibenyddiaeth
Astudiaeth achosion terfynol drwy ystyried pwrpas, egwyddor neu amcan yw dibenyddiaeth,[1][2] bwriadaeth,[2][3] bwriadeg[4] neu teleoleg.[2][5] Gosododd Aristotlys seiliau dibenyddol i athroniaeth y Gorllewin, gan honni bod rhai ffenomenau i'w hesbonio orau yn nhermau bwriad neu bwrpas yn hytrach nag achos. Yn ei ystyr ddiwinyddol, y gred fod amcan neu gynllun arbennig i holl ddatblygiadau'r cread yw dibenyddiaeth, ac felly'r ddadl ddibenyddol yw'r athrawiaeth fod tystiolaeth i bwrpas neu gynllun yn y bydysawd, a bod hyn yn brawf o fodolaeth cynllunydd megis Duw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ dibenyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Geiriadur yr Academi, [teleologism].
- ↑ bwriadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ bwriadeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
- ↑ teleoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
🔥 Top keywords: HafanXXX: Return of Xander CageCarles PuigdemontArbennig:SearchSiôn Daniel YoungYr Ail Ryfel BydCategori:Etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngogledd-orllewin LloegrWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:RecentChangesWicipedia:Y CaffiEisteddfod Aberteifi 1176Sex TapeWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia:CymorthGuto HarriBetsi CadwaladrWicipedia:Gwadiad CyffredinolCymraegDefnyddiwr:Craigysgafn/Pwll Tywod/6Deep Throat Part IiWiki HowWicipedia:Porth y GymunedArwel GruffyddCymruKatrin VernauWicipedia CymraegNick ServiniSpecial:SearchRhestr penodau Tomos a'i FfrindiauLaryncsWicipedia:CyflwyniadRiley Reid27 MehefinRhestr adar CymruMiracles From HeavenGwlad PwylWicipediaWicipedia:CofrestruThe Education of Sonny Carson