Dolbelydr
Maenordy carreg o'r 16g yw Dolbelydr, a chartref Harri Salbri (hefyd Henry Salesbury; 1561- c.1605) awdur Grammatica Britannica. Mae'r adeilad yn gorwedd yn nyffryn bychan arger Afon Elwy, wedi'i amgylchynu gan gaeau gwyrdd tua 2 km i'r gorllewin o Drefnant, Sir Ddinbych yng nghymuned Cefnmeiriadog. Yn wreiddiol roedd yn dŷ o gryn statws wedi'i godi o galchfaen trwsiadus, gyda simneiau tal a solad, ei risiau sbeiral a'i simneiau tal ar y talcenni. Ar wahân i bolyn trydan neu ddau, nid yw'r olygfa i lawr y dyffryn wedi newid dim, ers y pum can mlynedd diwethaf.
![]() | |
Math | adeilad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cefn Meiriadog ![]() |
Sir | Cefn Meiriadog ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Uwch y môr | 32 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2265°N 3.45303°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/74/Maenordy_carreg_Dolbelydr_25c_manor_house%2C_Cefnmeiriadog%2C_Denbighshire%2C_Cymru%2C_Wales.jpg/350px-Maenordy_carreg_Dolbelydr_25c_manor_house%2C_Cefnmeiriadog%2C_Denbighshire%2C_Cymru%2C_Wales.jpg)
Dadansoddwyd pren mewnol y tŷ gyda dulliau 'dendro-cronoleg' a dulliau eraill i 1578. Gorffenwyd y gwaith adfer yn 2003.
Mae cynllun y tŷ'n arloesol gyda'i gyntedd petryal a'i sgrin estyll a mwntin. Dirywiodd statws Dolbelydr yn ystod y canrifoedd dilynol, o bosib oherwydd ei leoliad diarffordd, y ffordd gul a throellog ato a'i faint ac erbyn 1912 roedd yn wag. Fe'i prynnwyd yn 1982 gan y Landmark Trust a sylweddolodd arwyddocad fel un o 'dai coll Cymru'. Erbyn hynny roedd y to wedi dymchwel a'r sgrin solar wedi'i symud i Gaer, lle mae hyd heddiw.[1][2][3]
Mae'r llawr llechen yn cynnwys llawer o'r llechi gwreiddol a cheir waliau mwnol o blethwaith a chlai yn hytrach na phlastr calch mwy arferol, a dyna a ddefnyddiwyd pan adferwyd y ty yn y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au.
Henry Salesbury
golyguYchydyg iawn a wyddom am Henry Salesbury, ar wahân i'r ffaith ei fod yn aelod o deulu pwerus y Salesbriaid, tirfeddianwyr cyfoethog yn ardal Dyffryn Clwyd.
Argraffwyd y Grammatica Britannica yn Llundain yn 1593.
Prif gartre'r Salbriaid oedd Lleweni ac roedd ganddynt gysylltiad agos gyda Galltfaenan.
Oriel luniau
golyguY tu allan
golygu- Lleoliad, a'r lôn gul a grewyd yn gymharol ddiweddar.
- Y faenordy o'r lôn gul.
- Hen ysgubor cyfagos.
- Y talcen gorllewinol, gyda'i simnai tal.
- Dolbelydr o'r cefn.
Gweler hefyd
golygu- Bachymbyd, plasty ger Rhuthun a sefdlwyd gan Pyrs Salbri
- William Salesbury, roedd yn gyfrifol, gyda Thomas Huet, am wneud y cyfieithiad cyntaf cyflawn o'r Testament Newydd i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1567.
- Robert Salbri, bardd
- Hester Thrale, awdures a chyfaill i Samuel Johnson
- Cefn Berain
- Bachegraig, plasty Syr Rhisiart Clwch
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Taflenni gan y Landmark Tryst; 2017.
- ↑ Gwefan coflein.gov.uk; adalwyd 17 Medi 2017.
- ↑ gwefan britishlistedbuildings.co.uk; gyda hen luniau cyn y gwaith adfer. Adalwyd 17 Medi 2017.