Jurga Šeduikytė

actores a aned yn 1980

Cantores, cyfansoddwraig ac actores Lithwaneg yw Jurga Šeduikytė (enw llwyfan Jurga, a anwyd ar 10 Chwefror 1980 yn Klaipėda [1] ) - .Yn 2009 priododd Vidu Bareikis. Daeth yn enwog yn 2005 ar ôl cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth cerdd ar y teledu, Fizz Superstar. Wedyn daeth yn lleisydd y band roc merched Muscat, daeth yn enwog yn 2005. Yn haf 2005 cafodd hit gyda'r gân "Nebijok" (Peidiwch â bod ofn). Rhyddhawyd albwm gyntaf Jurga "Aukso pieva" (Dol euraidd) yn hydref yr un flwyddyn.

Jurga Šeduikytė
GanwydJurga Šeduikytė Edit this on Wikidata
10 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Telšiai Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lithwania Lithwania
Alma mater
  • Prifysgol Vilnius Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jurgamusic.com Edit this on Wikidata

Ieuenctid

golygu

Fe'i ganed yn Klaipeda i deulu o gerddorion, ac fe'i magwyd yn Šiluva, Telšiai, Yn ddiweddarach symudodd i Palanga, lle graddiodd o'r ysgol uwchradd a'r ysgol gerddoriaeth ar ôl astudio piano . Aeth i Brifysgol Vilnius, lle enillodd radd baglorloriaeth mewn newyddiaduraeth a gradd meistr mewn cysylltiadau cyhoeddus.

Gyrfa

golygu

Yn 2002 cymeroddd rhan yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth i gantorion ifainc "Fizz Superstar". Yn yr un flwyddyn, dechreuodd Jurga berfformio gyda'r band roc merched Muscat o dan y ffugenw Dingau. Yn 2004 chwaraeodd Jurga rolau allweddol yn y sioeau cerdd "Ugnies medžioklė su varovais“ a "Tadas Blinda“ rhwng 2004 a 2006, Wedyn cymerodd ran yn sioe gerddoriaeth LRT " Lietuvos dainų titukas " a gweithiodd fel rheolwr dethol cenedlaethol ar gyfer Eurovision ynghyd â Rolandas Vilkončius .

Yn 2005 dechreuodd yrfa gerddoriaeth unigol o dan yr enw llwyfan Jurga. Y gân "Nebijok", a ryddhawyd yng ngwanwyn yr un flwyddyn, oedd y darn a chwaraewyd fwyaf ar donnau awyr gorsafoedd radio Lithwania, a daeth Jurga yn un o'r perfformwyr mwyaf poblogaidd. Rhyddhawyd albwm cyntaf Jurga " Aukso pieva ", a gynhyrchwyd gan Andrius Mamontovas, yn 2006. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth a geiriau'r albwm gan Jurga ei hun, ac eithrio "Kai pamirši tu mane" (Pan wnei di anghofio amdanaf fi) a "Laisvė" (Rhyddid) gan Andrius Mamontovas.

Yn 2006 enillodd Jurga Šeduikytė mwy owobrau ar gyfer 2005 yng Ngwobrau Cerddoriaeth Lithwania na neb arall.

Ar Ebrill 19, 2007 cyflwynwyd a dosbarthwyd ail albwm Jurga " Instrukcija ", a ddaeth yn record aur mewn 2 wythnos. Yn mis Gorffennaf yr un flwyddyn enillodd Jurga y brif wobr yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol y Baltig yn Karlshamn, Sweden . Cân fuddugol yr artist oedd y trac Saesneg "5th Season" o'r albwm "Instrukcija" (Instruction). [2] Ym mis Tachwedd 2007 cydnabuwyd Jurga yng Ngwobrau Cerddoriaeth MTV Europe 2007 ym Munich . Derbyniodd wobr MTV am yr Act Baltig Orau gan Justin Timberlake, a enwebwyd am y Perfformiad Gorau yn 2007.

Rhyddhawyd ei halbwm " Not Perfect " yn 2017.

Bywyd personol

golygu

Ym mis Awst 2008, cafodd Jurga a'i ffrind, Vidu Bareikis (sef lleisydd Suicide DJs) , fab Ado. Priododd Jurga a V. Bareikis yn 2009. Ar ôl deng mlynedd o briodas, ysgarodd y ddau.

Disgograffi

golygu

Albymau

golygu
  1. Aukso pieva]]
    2005 m. rugsėjo 16 d.
    M.P.3
  2. Instrukcija
    2007 m. balandžio 19 d.
    M.P.3
  3. +37° (Goal of Science)
    2009 m. rugsėjo 30 d.
    M.P.3
  4. Metronomes
    2011 m. rugsėjo 21 d.
  5. Breaking the Line
    2013 m. gegužės 1 d.
    Creative Industries
  6. Giliai vandeny
    2015 m. spalio 15 d.
    Creative Industries, Mind the Groove

Senglau radio

golygu
BlwyddynEnwSafle uchafAlbwm
LTM-1 40 uchafRC 20 UchafLietaus 20 Uchaf
2005"Laisvė" (Rhyddid)(ynghyd ag E. Masyte)Aukso pieva (Dôl euraidd)
2005"Nebijok" (Paid â bod ofn)211Aukso pieva
2005"Aš esu tiktai jei tu esi“ (Haul yn y dŵr)Aukso pieva
2006"Galbūt“ (Efallai)Aukso pieva
2006"Aš esu tiktai jei tu esi“ (Dim ond os wnei di)Aukso pieva
2007"Instrukcija“ (Cyfarwyddyd)2693Instrukcija (Cyfarwyddyd)
2007"Renkuosi Žemę“ (Rwy'n dewis y Ddaear)44Instrukcija
2007"5th Season“ (5ed Tymor)1Instrukcija
2008"Sandman’s Child“ (Plentyn Sandman)1127Instrukcija
2008"Angelai“ (Angylion)12Instrukcija
2009"Running " (Rhedeg)+37° (Goal of Science)(Nod Gwyddoniaeth)
2009"Rykliai ir vilkolakiai“ (Siarcod a Werewolves)119+ 37 ° (Nod Gwyddoniaeth)
2009"Miego vagys“ (Lladron Cwsg)+ 37 ° (Nod Gwyddoniaeth)
  1. youtube.com Jurga laidoje „Pasivaikščiojimai su Jurga Šeduikyte“ patikslina tikrąją gimimo vietą
  2. Jurga laimėjo tarptautiniame muzikos festivalyje Švedijoje