Llewelyn Lewellin
clerigwr
Clerigwr oedd Llewelyn Lewellin (3 Awst 1798 – 25 Tachwedd 1878).
Llewelyn Lewellin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Awst 1798 ![]() |
Bu farw | 25 Tachwedd 1878 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | clerig, offeiriad ![]() |
Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y Clasuron, a graddio'n B.A. ym 1822, yn M.A. ym 1824, yn B.C.L. ym 1827, ac yn D.C.L. ym 1829. Cafodd urddau diacon ym 1822 ac fe'i gwnaed yn offeiriad ym 1823, ar law esgob Rhydychen. Ym 1826 cafodd gynnig, a derbyniodd, swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Ond yn hytrach na mynd yno, aeth, ym 1827, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan fel ei brifathro cyntaf, a bu yno hyd ei farw ar 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llambed o 1843 ymlaen ac yn ddeon Tyddewi o 1843 ymlaen. Fe'i claddwyd yn Llambed.
Ffynhonnell
golygu- Erthygl ar Lewelyn gan Thomas Iorwerth Ellis, in The Dictionary of Welsh Biography, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1959.
🔥 Top keywords: HafanXXX: Return of Xander CageCarles PuigdemontArbennig:SearchSiôn Daniel YoungYr Ail Ryfel BydCategori:Etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngogledd-orllewin LloegrWicipedia:Cysylltwch â niArbennig:RecentChangesWicipedia:Y CaffiEisteddfod Aberteifi 1176Sex TapeWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia:CymorthGuto HarriBetsi CadwaladrWicipedia:Gwadiad CyffredinolCymraegDefnyddiwr:Craigysgafn/Pwll Tywod/6Deep Throat Part IiWiki HowWicipedia:Porth y GymunedArwel GruffyddCymruKatrin VernauWicipedia CymraegNick ServiniSpecial:SearchRhestr penodau Tomos a'i FfrindiauLaryncsWicipedia:CyflwyniadRiley Reid27 MehefinRhestr adar CymruMiracles From HeavenGwlad PwylWicipediaWicipedia:CofrestruThe Education of Sonny Carson