Marathon Eryri

Ras farathon a gynhelir yn Eryri, Gwynedd yw Marathon Eryri. Cafodd ei sefydlu yn 1982. Cafodd y marathon ei enwi yng nghylchgrawn Runners World yn 2007 fel y marathon gorau yng ngwledydd Prydain.[1]

Marathon Eryri
Eryri yn ei ogoniant
DyddiadHydref
leoliadParc Cenedlaethol Eryri
MathMynydd
PellterMarathon
Sefydlwyd1982
Official sitehttp://www.snowdoniamarathon.co.uk/ www.snowdoniamarathon.co.uk

Mae'r marathon yn cychwyn ac yn gorffen ger pentref Llanberis wrth droed Yr Wyddfa. Mae'n dilyn yr hen ffordd trwy Nant Peris - lle arferid ei chychwyn - i fyny hyd at Ben-y-Gwryd. Oddi yno mae'n disgyn i lan Llyn Dinas ac ymlaen i bentref Beddgelert ac yna'n cylchu'n ôl yr ochr arall i'r Wyddfa hyd bentrefi Rhyd-ddu a Waunfawr cyn croesi llethrau'r mynydd i orffen yn ôl yn Llanberis. Cofrestrwyd dros 2,000 o redwyr yn ras 2010.[1]

Canlyniadau y Dynion

golygu
BlwyddynSafle cyntafAil safleTrydydd safle
2007 Shaun Milford John Allen Dennis Walmsley
2008 Martin Cox Rob Samuel Philip Hails
2009 Julian Macdonald Gwyn Owen Paul Lewis
2010 Richard Gardiner Matt Janes Michael Aldridge
2011 Rob Samuel Murray Strain Richard Gardner
2012 Rob Samuel Matthew Roberts Justin Maxwell

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato