Mynydda
Mynydda yw'r grefft o esgyn mynyddoedd. Yn achos mynyddoedd uchel mae'n gallu cynnwys dringo ar greigiau, rhew neu eira, ond nid yw pob mynyddwr yn ddringwr ac nid yw pob dringwr yn fynyddwr.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d1/Owen_Glynne_Jones2.jpg/200px-Owen_Glynne_Jones2.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/50/Alpinism2.jpg/250px-Alpinism2.jpg)
- Gweler hefyd Dringo.
Mae ardaloedd mynydda enwog yng ngwledydd Prydain yn cynnwys Eryri a Bannau Brycheiniog yng Nghymru, Ardal y Llynnoedd yn Lloegr a Glencoe, Skye a'r Cairngorms yn yr Alban. Ar gyfandir Ewrop yr Alpau yw'r ganolfan enwocaf ond ceir mynydda da ar fynyddoedd llai fel y Pyrenees, y Tatra a mynyddoedd Norwy. O gwmpas y byd mae mynyddoedd mawr fel yr Andes, y Rockies a'r Himalaya yn galw.
Rhai cerrig milltir yn hanes mynydda
golygu- Tua 5,300 o flynyddoedd yn ôl dringodd dyn, sydd wedi cael ei enwi'n Ötzi gan archaeolegwyr, i tua 3,000 m i fyny yn yr Alpau. Cafodd hyd i'w gweddillion mewn rhewlif.
- Dringodd yr ymerodr Rhufeinig Hadrian Etna (3,350 m) i weld y wawr o'r copa yn 121.
- Dringodd Pedr III o Aragon fynydd Canigou yn y Pyrenees yn chwarter olaf y 13g.
- Dywedir fod Popocatépetl (5,426 m, Mecsico) wedi cael ei ddringo yn 1289 gan aelodau o lwyth lleol y Tecanuapiaid.
- Mae'r bardd Eidaleg Petrarch yn honni ei fod wedi dringo Mont Ventoux (1,909m) ar 26 Ebrill 1336, gyda'i frawd a dau was.
- Y Rochemelon (3,538 m) yn yr Alpau Eidalaidd yn cael ei ddringo yn 1358.
- Honnir bod trigolion yr Andes yn dringo rhai o'r copaon yn y cyfnod 1400–1500au.
- Yn 1492 dringwyd Mont Aiguille ar orchymyn Siarl VIII o Ffrainc.
- Leonardo da Vinci yn dringo maes eira Val Sesia i wneud gwaith gwyddonol.
- Yn 1642 mae Darby Field yn dringo Mynydd Washington (Agiocochook) yn New Hampshire (gogledd-ddwyrain UDA heddiw).
- Ar ddiwedd yr 17g mae Konrad Gesner a Josias Simler o Zürich yn ymweld â'r Alpau ac yn dechrau dringo i'r copaon yn gyson. Defnyddir bwyeill rhew cyntefig a rhaffau am y tro cyntaf.
- Yn 1741 mae Richard Pococke a William Windham yn ymweld â Chamonix, gan gychwyn ffasiwn am ymweld â rhewlifoedd.
- Yn 1744 dringir Mynydd Titus yn yr Alpau.
- Yn ystod y 1950au, dringwyd y pob copa 8000m namyn dau, gan gychwyn gyda Annapurna yn 1950 gan Maurice Herzog a Louis Lachenal. Cafodd fynydd uchaf y byd, Mynydd Everest (8,848 m) ei ddringo ar 29 Mai, 1953 gan Syr Edmund Hillary a Tenzing Norgay, o'r ichr ddeheuol yn Nepal. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach dringodd Hermann Buhl Nanga Parbat (8,125 m), ar ben ei hun, yr unig enghraifft o gopa 8000m i gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynyddwr unigol. Dringwyd K2 (8,611 m), mynydd ail-uchaf y byd, yn 1954. Yn 1964, esgynwyd y copa 8000m olaf, Shishapangma (8,013 m).
Gweler hefyd
golygu🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanCarles PuigdemontSiôn Daniel YoungArbennig:SearchWicipedia:Cysylltwch â niRoom in RomeYr Ail Ryfel BydDeep Throat Part IiSwper OlafArbennig:RecentChangesCategori:Egin papur newyddMaurice BéjartWicipedia:Ynglŷn â WicipediaArwel GruffyddSex TapeWicipedia:Porth y GymunedL.E.T.H.A.L. Ladies: Return to Savage BeachWicipedia:Y CaffiWicipedia:CymorthWicipedia:Gwadiad CyffredinolCimwchSpecial:SearchCymraegRape Zombie: Lust of The DeadMiracles From HeavenLlyn CraigypistyllIlsa, The Tigress of SiberiaHuw ChiswellInc & CoCaligula's SpawnStealing BeautyCyfathrach rywiolHappy GilmoreEl Sastre De PanamáWicipedia:Y caffiHalloween H20: 20 Years LaterAnna VlasovaPidyn