Oes y Tywysogion

Oes y Tywysogion yw'r enw a arferir i ddynodi'r cyfnod yn hanes Cymru sy'n ymestyn o 1066, pan gyrhaeddodd y Normaniaid, i gwymp Tywysogaeth Gwynedd i goron Lloegr yn 1284.

Oes y Tywysogion
Map o raniadau tirol Cymru yn y cyfnod yn cynnwys; teyrnas, cantref, cwmwd
Enghraifft o'r canlynolCyfnod hanesyddol
Yn cynnwysHanes canoloesol Cymru, gan gynnwys hanes tywysogion Gwynedd, Deheubarth, Powys a Morgannwg
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Roedd concro neu orchfygu Cymru yn broses araf. Goresgynnodd y Normaniaid ddwyrain Cymru am y tro cyntaf tua diwedd yr 11g. Dros gyfnod o 200 o flynyddoedd, llwyddodd arglwyddi Seisnig, yn raddol, i gymryd rheolaeth dros ddwyrain a de Cymru. Gelwid yr arglwyddi Seisnig hyn yn arglwyddi’r mers. Yn ystod y cyfnod hwn, bu llawer o frwydrau rhwng tywysogion Cymru ac arglwyddi’r mers.

Roedd tri prif reswm pam y cymerodd dros 200 mlynedd i orchfygu Cymru;

  • Roedd llawer o deyrnasoedd bychan yng Nghymru. Dim ond darnau bach o Gymru y gallai’r Saeson eu gorchfygu ar y tro.
  • Roedd y Cymry’n defnyddio tacteg o’r enw herwryfela neu ryfela gerila. Roedd hyn yn golygu llawer o ymosodiadau bach yn hytrach nag un frwydr fawr. Yn aml, byddent yn ymosod ac yna’n rhedeg i ffwrdd.
  • Roedd yn anodd i’r Saeson deithio’n gyflym trwy Gymru oherwydd y mynyddoedd a’r coedwigoedd. Roedd y mynyddoedd a’r coedwigoedd mawr yn golygu bod gan y Cymry rywle i guddio hefyd.

Uchafbwyntiau

golygu

Hanes

golygu

Brwydro gyda'r Normaniaid

golygu
Darlun 1900 o "Gruffudd ap Cynan yng ngharchar Hugh d'Avranches yng Nghaer"

Ar ôl i Wiliam Goncwerwr ennill coron yr Eingl-Sacsoniaid yn 1066, bu brwydro dros diroedd Cymru am 25 mlynedd ac fe sefydlwyd 'Pura Wallia' dan reolaeth y Cymry a'r Mers ('Marchia Wallia') dan reolaeth yr Normaniaid. Er gwaethaf hyn, erbyn 1100 enillodd y Cymry diroedd helaeth yn ôl oddi tan reolaeth Wiliam II gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion a rhannau mawr o Bowys.[1] Yn 1081, unodd Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan i adennill Teyrnas Deheubarth a Gwynedd rhag y Normaniaid. Llwyddodd ymdrechion Rhys ond daliwyd Gruffudd a'i garcharu. Yn 1093, lladdwyd Rhys ger Aberhonddu ond llwyddodd Gruffudd i ddianc o'i garchar tua'r un cyfnod. Yn 1098 bu'n rhaid i Gruffudd ffoi eto i Iwerddon ond dychwelodd yn 1099, pan lladdwyd y Norman pwerus, Hugh de Montgomery gan Scandinafiaid. Erbyn y 1120au, fe lwyddodd Gruffudd i reoli rhan fwyaf o Wynedd.[2]

Yn y blynyddoedd ar ôl 1125, llwydodd mab Gruffydd ap Cynan, Cadwallon ap Gruffudd i ehangu tiroedd Gwynedd a etifeddwyd gan ennill arglwyddiaethau Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac erbyn 1136 Meirionnydd. Ystyrir 1136 fel trobwynt, lle dinistriwyd byddin Eingl-Normanaidd yng Nghasllwchwr. Yn 1138, unodd wyrion Rhys ap Tewder (Anarawd ap Gruffudd a Cadell ap Gruffudd) gyda meibion Gruffydd ap Cynan, (Owain Gwynedd a Cadwaladr) i gwblhau concwest Ceredigion rhag y Normaniaid, heblaw Castell Aberteifi).[3]

Yn 1141, disgrifiwyd Owain a'i frawd Cadwaladr yn frenhinoedd Gwynedd ac yn 1152, llwyddodd Owain i adennill ffiniau cyn-Normanaidd Gwynedd yn ogystal â rhannau o Bowys a Deheubarth. Yn 1150 rheolodd Hywel ab Owain Gwynedd Geredigion a Meirionydd ond erbyn 1153 adenillwyd Ceredigion gan deyrnas Deheubarth. Yn 1163, Malcolm brenin yr Alban, Rhys ap Gruffudd "tywysog y Cymru deheuol" ac Owain, "(tywysog y Cymry) gogleddol" ac arweinwyr eraill Cymru dalu gwrogaeth i Harri II, brenin Lloegr yng Nghyngor Woodstock.[4]

Tywysogion Cymru

golygu
Darlun 1909 o Owain Gwynedd

Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" (Owain, brenin Cymru) yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin cyfandirol. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Roedd hyn yn arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufeinig.[5]

Yn 1201 fe ddaeth Llywelyn ap Iorwerth i'r amlwg gan enill rheolaeth dros Wynedd a gwneud ei hun yn "Dywysog Gogledd Cymru gyfan", yn hwyrach defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri". [6] Cryfhaodd Llywelyn ei ddylanwad yn y De yn ystod Cynhadledd Aberdyfi yn 1216. Sefyflodd ei hun fel arglwydd dros feibion ​​ac wyrion yr Arglwydd Rhys gan rannu tiroedd Rhys rhyngddynt heb gymryd tir iddo ef ei hun. Gwnaed hyn o flaen cynulliad o bennaethiaid ac yn ôl yr awdur John Edward Lloyd, gellir ystyried hwn "bron yn senedd Gymreig, y cyntaf o'i fath" ond heb eu casglu dan ofyniad cyfraith.[7] Ar ôl dioddef o strôc yn 1237, trosglwyddodd ei bwerau i'w fab Dafydd ap Llywelyn. Yn 1238 casglodd arweinwyr eraill y wlad ynghyd mewn Cynulliad yn Abaty Ystrad Fflur i dalu gwrogaeth iddo fel Tywysog Cymru.[6][8]

Erbyn 1258 bu Llywelyn ap Gruffudd yn rheoli bron y cyfan o "Gymru Gymreig" (Pura Wallia) a dechreuodd ddefnyddio teitl Tywysog Cymru. Cynhaliodd Llywelyn gynulliad o fân-bennaethiaid Cymru yn gynnar y flwyddyn honno, lle gaddwyd wrogaeth a ffyddlondeb iddo; ac yn 1959, cynhaliodd gyngor fawr fel Tywysog Cymru yn Arwystli.[6][9]

Wedi iddo ymestyn ei reolaeth i lawr i'r Bannau Brycheiniog yn 1262, sefydlodd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 lle cytunodd Harri III, brenin Lloegr i gydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Ym 1277, gorfododd ymosodiad Edward I i Llywelyn dderbyn Cytundeb Aberconwy, gan olygu y byddai'n colli llawer o'r tir a enillwyd yn flaenorol, ond yn cadw teitl Tywysog Cymru.[6]

Diwedd annibyniaeth Cymru

golygu
Cofeb Llywelyn, Cilmeri

Yn 1267, adnabyddywd Llywelyn fel tywysog Cymru annibynol gan goron Lloegr yn dilyn Cytundeb Maldwyn, a adnabyddodd hefyd hawl i Llywelyn dderbyn wrogaeth gan yr uchelwyr brodorol. Llywelyn oedd yr unig dywysog i goron Lloegr ei adnabod yn y modd hyn ond roedd yn rhaid iddo dalu 25,000 o farciau er gwaethaf ei incwm a oed o bosib o gwmpas 5,000 o farciau. Yn y pendraw, gwrthododd Llywelyn dalu a gwrthododd dalu gwrthogaeth i Edward. Goresgynodd fyddin Edward ac ennill brwydr yn ei erbyn gan orfodi termau llym Cytundeb Aberconwy gan golli tir a llawer o arian. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.[10]

Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin gan swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;

anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon.

Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. [10] Lladdwyd Llywelyn ym Mrwydr Pont Orewin gan filwyr o Loegr mewn tric cudd yn ôl un ffynhonnell. Roedd Llywelyn dan yr argraff ei fod yn mynd yno ar gyfer trafodaethau. Parediwyd pen Llywelyn trwy Lundain a'i osod ar bigyn Tŵr Llundain gyda choron sarhaus o ddail llawryf.[11]

Dal Dafydd

golygu

Casglodd Dafydd benaethiaid Gwynedd yngyd yn Ninbych i geisio ail-ddechrau rhyfel egniol ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Curwyd Dafydd ger Dolbadarn gan Iarll Warwick. Ciliodd Dafydd gan ddioddef o newyn ac oerni i Nanhysglain ger Bera Mawr. Ar 21 Mehefin 1283, bradychwyd y criw gan Einion ap Ifor, Esgob Bangor, Gronwy ab Dafydd a'u cludo i Gastell Rhuddlan ac Edward. Cymerwyd Dafydd dan warchodlu cryf i Amwythig a chafwyd ef yn euog o flaen 100 o farwniaid, 11 iarll ac Edward ei hun.[12] Ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg.[10]

Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd gan gynnwys rhan tybiedig o groes Iesu Grist i gysegr Edward y Coffeswr yn Abaty Westminster er mwyn dangos fod coron Lloegr wedi cymeryd coron Cymru.[10]

Ym Mhorth Wygyr neu Benofer, adeiladodd Gastell a enwodd yn Biwmares. Yn 1296 gorffenwyd yr adeilad a bu "Ffrau Ddu yn Biwmares" pan apwyntiwyd geidwad castell a llywydd y dref a lladdwyd rhai o Gymru. Dywedir mai yn i'r castell y gwahoddwyd feirdd ar gyfer math o Eisteddfod gan Edward cyn iddo orchymun i'w filwyr ruthro arnynt a'u lladd (Cyflafan y beirdd). Mae'r farn ar hanesrwydd y digwyddiad yn gymysg ymysg awduron a haneswyr.[12]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • A. D. Carr, Llywelyn ap Gruffudd (Caerdydd, 1982)
  • R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
  • J. E. Lloyd, History of Wales to the Edwardian Conquest, 2 gyfrol (1911)
  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). ISBN 0708308448
  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 83–88. ISBN 978-1-84990-373-8.
  2. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 11–26. ISBN 978-1-84771-694-1.
  3. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 35–43. ISBN 978-1-84771-694-1.
  4. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 49–51, 58, 68, 74. ISBN 978-1-84771-694-1.
  5. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 109–120. ISBN 978-1-84990-373-8.
  7. Lloyd, John Edward (1912). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Robarts - University of Toronto. London Longmans, Green. t. 649.
  8. Lloyd, John Edward (1912). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Robarts - University of Toronto. London Longmans, Green. t. 692.
  9. Lloyd, John Edward (1912). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Robarts - University of Toronto. London Longmans, Green. tt. 723–724, 37.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 35–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
  11. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  12. 12.0 12.1 Evans, E. Vincent (1802). Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddogol Eisteddfod Bangor, 1890. tt. 188–192.