Rhif negatif
Mewn mathemateg, rhif negatif yw rhif real sy'n llai na sero.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a3/US_Navy_070317-N-3642E-379_During_the_warmest_part_of_the_day%2C_a_thermometer_outside_of_the_Applied_Physics_Laboratory_Ice_Station%27s_%28APLIS%29_mess_tent_still_does_not_break_out_of_the_sub-freezing_temperatures.jpg/220px-thumbnail.jpg)
Mae rhifau negatif yn rhan o ddau beth sy'n cwbwl groes i'w gilydd: y positif a'r negatif (hefyd 'negyddol' neu 'minws'). Os yw positif yn cynrychioli symud i'r dde, mae'r negydd yn cynrychioli symud i'r chwith. Os yw positif yn cynrychioli lefel uwch y môr, yna mae negatif yn cynrychioli lefel islaw'r môr. Fe'u defnyddir yn aml i gynrychioli maint colledion ariannol neu ddiffyg arian. Gellir ystyried bod swm o arian sy'n ddyledus yn 'ased negatif', a bod gostyngiad o hyn-a-hyn yn cael ei ystyried fel 'cynnydd negatif'.
Yn y diagram a ganlyn, mae'r rhifau negatif mewn coch, i'r chwith o'r sero (0), yn dynodi minws
![The number line](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/93/Number-line.svg/400px-Number-line.svg.png)
Mae dau beth gwahanol yn aml yn cael ei ystyried fel positif a negatif. Yn y cyd-destun meddygol o ymladd tiwmor, gellid ystyried twf y tiwmor fel 'crebachu negatif'. Defnyddir niferoedd negatif i ddisgrifio gwerthoedd ar raddfa sy'n mynd islaw sero, megis graddfeydd Celsius a Fahrenheit ar thermomedr. Mae cyfreithiau rhifyddeg ar gyfer rhifau negatif yn sicrhau bod y cysyniad o synnwyr cyffredin yn cael ei adlewyrchu mewn rhifyddeg. Er enghraifft, - (- 3) = 3 oherwydd y gwrthwyneb y gwrthwyneb yw'r rhif gwreiddiol.
Terminoleg
golyguDefnyddir y gair negatif yn hytrach na 'negyddol' gan Eiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ colegcymraeg.ac.uk; Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Awst 2018.