Sun Tzu
Awdur o Tsieina oedd Sun Tzu (Pinyin: Sūn Zǐ, "Meistr Sun", tua 544—496 CC). Mae'n adnabyddus fel awdur y llyfr Sūnzǐ Bīngfǎ ("Celfyddyd Rhyfel"), llyfr eithriadol o ddylanwadol ar gelfyddyd filwrol.
Sun Tzu | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 孫武 ![]() c. 544 CC ![]() Qi ![]() |
Bu farw | Gusu ![]() |
Dinasyddiaeth | Qi, Wu ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, athronydd, person milwrol ![]() |
Adnabyddus am | Celfyddyd Rhyfel ![]() |
Tad | Sun Pinga ![]() |
Plant | Sun Ming Zi ![]() |
Perthnasau | Sun Jian ![]() |
Nid yw haneswyr yn cytuno a oedd Sun Tzu yn gymeriad hanesyddol ai peidio. Yn ôl yr hanesydd Sima Qian, yn ysgrifennu yn yr 2 CC, ganed Sun Tzu yng ngwladwriaeth Ch'i, a bu'n gadfridog i frenin teyrnas Wu. Mae eraill yn dyddio'r llyfr Sūnzǐ Bīngfǎ i gyfnod ddiweddarach, sef Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar (403–221 CC), ar sail ei ddisgrifiad o ryfel.
Dyma rai o ddyfyniadau o Sūnzǐ Bīngfǎ:
知彼知己,百戰不殆;不知彼而知己,一勝一負;不知彼,不知己,每戰必殆 Os ydym yn adnabod y gelyn ac yn adnabod ein hunain ni chawn ein curo o fewn can brwydr, os nad ydym yn adnabod y gelyn ond yn adnabod ein hunain, cewn un fuddugoliaeth am bob goresgyniad, os nad ydym yn adnabod nid y gelyn na ni ein hunain, byddem yn colli pob brwydr.
是故百戰百勝,非善之善者也;不戰而屈人之兵,善之善者也 Nid yw brwydro canwaith ac ennill canwaith yn gystal camp a chael gafael o luoedd y gelyn heb ymladd o gwbl.