Tlws Giuseppe Garibaldi

Mae Tlws Giuseppe Garibaldi (Eidaleg: Trofeo Garibaldi; Ffrangeg: Trophée Garibaldi) yn dlws rygbi'r undeb a ddyfernir i enillydd y gêm flynyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Ffrainc a'r Eidal.[1]

Tlws Giuseppe Garibaldi
Enghraifft o'r canlynolrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
CrëwrJean-Pierre Rives Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata

Giuseppe Garibaldi

golygu

Chwyldroadwr Eidalaidd oedd Giuseppe Garibaldi a anwyd ym 1807 yn Nice (bellach yn Ffrainc, ond ar y pryd yn rhan o Deyrnas Sardinia). Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i uno'r Eidal. Roedd hefyd yn gadfridog ym myddin Ffrainc yn ystod y Rhyfel 1870 rhwng Ffrainc a thaleithiau Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen dan arweiniad Teyrnas Prwsia.[2]

Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant geni Garibaldi, penderfynodd y Fédération Française de Rugby a Federazione Italiana Rugby greu tlws er anrhydedd iddo i'w ei ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Pencampwriaeth y 6 Gwlad rhwng Ffrainc. a'r Eidal .

Y Tlws

golygu

Syniad

golygu

Cafodd y syniad gwreiddiol am dlws i'w ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Ffrainc a'r Eidal, ei grybwyll gyntaf yn Nice gan y pwyllgor rhyngwladol ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant geni Garibaldi.

Cyflwynwyd y syniad i ffederasiynau rygbi Ffrainc a'r Eidal, casglodd fomentwm yn gyflym a chafodd ei gymeradwyo ar 6 Rhagfyr 2006 gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.[3]

Dylunio

golygu

Cafodd y tlws ei ddylunio gan y cerflunydd rhyngwladol a chyn capten tîm Ffrainc Jean-Pierre Rives,[4] dadorchuddiwyd y tlws ar 2 Chwefror 2007, yn ystod seremoni yn llysgenhadaeth Ffrainc yn Rhufain. Dadorchuddiwyd y tlws gan y cyn chwaraewyr rhyngwladol Diego Dominguez ar ran yr Eidal a Jean-François Tordo (a anwyd yn Nice) ar ran Ffrainc.

Gemau

golygu
GwledyddChware  Ffrainc
yn ennill
 yr Eidal
yn ennill
CyfartalPwyntiau
 Ffrainc
Pwyntiau
 yr Eidal
 Ffrainc7700223115
 yr Eidal862027298
Cyfanswm151320495213

Canlyniadau

golygu
BlwyddynDyddiadMaesCartrefSgôrOddi gartrefEnillydd
20216 ChwefrorStadio Olimpico, RhufainYr Eidal  10 – 50  Ffrainc  Ffrainc
20209 ChwefrorStade de France, ParisFfrainc  35 – 22  Yr Eidal  Ffrainc
201916 MawrthStadio Olimpico, RhufainYr Eidal  14 – 25  Ffrainc  Ffrainc
201823 ChwefrorStade Vélodrome, MarseilleFfrainc  34 – 17  Yr Eidal  Ffrainc
201711 MawrthStadio Olimpico, RhufainYr Eidal  18 – 40  Ffrainc  Ffrainc
20166 ChwefrorStade de France, ParisFfrainc  23 – 21  Yr Eidal  Ffrainc
201515 MawrthStadio Olimpico, RhufainYr Eidal  0 – 29  Ffrainc  Ffrainc
20149 ChwefrorStade de France, ParisFfrainc  30 – 10  Yr Eidal  Ffrainc
20133 ChwefrorStadio Olimpico, RhufainYr Eidal  23 – 18  Ffrainc  Yr Eidal
20124 ChwefrorStade de France, ParisFfrainc  30 – 12  Yr Eidal  Ffrainc
201112 MawrthStadio Flaminio, RhufainYr Eidal  22 – 21  Ffrainc  Yr Eidal
201014 MawrthStade de France, ParisFfrainc  46 – 20  Yr Eidal  Ffrainc
200921 MawrthStadio Flaminio, RhufainYr Eidal  8 – 50  Ffrainc  Ffrainc
20089 MawrthStade de France, ParisFfrainc  25 – 13  Yr Eidal  Ffrainc
20073 ChwefrorStadio Flaminio, RhufainYr Eidal  3 – 39  Ffrainc  Ffrainc

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Six Nations, Eight Cups - The Lesser Known Trophies The Tournament Has To Offer". The Sportsman. 2020-01-31. Cyrchwyd 2021-02-14.
  2. "Giuseppe Garibaldi | Biography, Redshirts, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. world.rugby. "Six Nations silverware: The rugby trophies won and lost in the annual Championship | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 2021-02-14.
  4. "More than only Six Nations Trophy on offer in Championship". rugby365.com. Cyrchwyd 2021-02-14.