Whitby
Tref a phlwyf sifil yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Whitby.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Scarborough.
![]() | |
![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Scarborough, Gogledd Swydd Efrog |
Poblogaeth | 13,594 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.4858°N 0.6206°W ![]() |
Cod SYG | E04007706 ![]() |
Cod OS | NZ893109 ![]() |
![]() | |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 13,213.[2]
Mae Caerdydd 375.2 km i ffwrdd o Whitby ac mae Llundain yn 331.6 km. Y ddinas agosaf ydy Efrog sy'n 66.1 km i ffwrdd.
![Yr harbwr](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/Whitby04LB.jpg/260px-Whitby04LB.jpg)
Mae Avon Esk yn llifo trwy’r dref ac i’r harbwr. Mae Abaty Whitby ar ben bryn uwchben y dref; mae 199 o risiau yn arwain ato. Soniodd Bram Stoker am y dref yn ei nofel Dracula, cyhoeddwyd yn 1897. Mae pont droi yn cysylltu darnau gorllewinol a dwyreiniol y dref yn ymyl y harbwr. Mae Parc Pannett bron ynghanol y dref, ger yr amgueddfa ac oriel gelfyddyd. Mae arch asgwrn Morfil ar y clogwyn gorllewinol a cherflun o James Cook, yn wynebu’r harbwr. Roedd o’n brentis yn y tref, ac adeiladwyd ei gychod ar lannau’r Esk. Mae nifer o westai mawrion ar ben y clogwyn gorllewinol; mae’r dref wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers yr oes Fictoria.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 31 Awst 2020
- ↑ City Population; adalwyd 1 Medi 2020
- ↑ Gwefan visitwhitby.com
Dinasoedd
Efrog · Ripon
Trefi
Bedale · Bentham · Boroughbridge · Colburn · Easingwold · Filey · Grassington · Guisborough · Harrogate · Haxby · Helmsley · Ingleby Barwick · Kirkbymoorside · Knaresborough · Leyburn · Loftus · Malton · Masham · Middleham · Middlesbrough · Norton-on-Derwent · Northallerton · Pateley Bridge · Pickering · Redcar · Richmond · Saltburn-by-the-Sea · Scarborough · Selby · Settle · Skelton-in-Cleveland · Skipton · Stokesley · Tadcaster · Thirsk · Thornaby-on-Tees · Whitby · Yarm