William Aubrey

gwr o'r gyfraith sifil

Roedd William Aubrey (tua 152925 Mehefin 1595) yn Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1553 a 1559, ac roedd yn un o gymrodyr sylfaenol Coleg yr Iesu, Rhydychen. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Aberhonddu, Bwrdeistref Caerfyrddin a nifer o etholaethau eraill.[1]

William Aubrey
Ganwyd1529 Edit this on Wikidata
Cantref Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1595 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, cyfreithegwr, gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Regius Professor of Civil Law Edit this on Wikidata
TadThomas Aubrey Edit this on Wikidata
MamJane ferch Thomas Fychan ap Roger ap Thomas Lloyd Edit this on Wikidata
PlantThomas Aubrey, Richard Aubrey, Edward Aubrey Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a Phrifysgol Rhydychen

golygu

Ganwyd Aubrey yn Sir Frycheiniog, yn ail fab i Thomas Aubrey, MD, Cefn Cantref.

Ar ôl cael ei addysg yn yr ysgol a enwyd yn ddiweddarach yn 'Goleg Crist', Aberhonddu, aeth Aubrey i Brifysgol Rhydychen, daeth yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen ym 1547. Cafodd radd Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1549 ac fe'i penodwyd yn brifathro New Hall Inn, Rhydychen ym 1550. Ym 1553, olynodd Robert Weston fel Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil. Daliodd y swydd hyd 1559, pan gafodd ei olynu gan John Griffith. Gwasanaethodd fel barnwr-marshal y fyddin o dan arweiniad William Herbert, Iarll Penfro yn ymgyrch St Quentin, 1557.[2]

Ym 1571, cafodd ei enwi yn Siarter y Sylfaenwyr fel un o'r wyth cymrodor gwreiddiol Coleg yr Iesu, Rhydychen Cafodd y radd o Ddoethur y Gyfraith Cyffredin (DCL) ym 1554 a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei wneud Meistr mewn Siawnsri.

Gwasanaeth Gyfreithiol

golygu

Ym 1562, fe fu Aubrey yn aelod o'r comisiwn a sefydlwyd gan Matthew Parker, Archesgob Caergaint a barnodd bod priodas y Ledi Catherine Grey i Henry Herbert (mab Iarll 1af Penfro) yn anghyfreithlon (bu hyn yn fodd i ddatgysylltu teulu Penfro oddi wrth ymgais aflwyddiannus y Ledi Jane Gray i hawlio Coron Lloegr) . Roedd yn un o lofnodwyr y farn gyfreithiol bod John Lesley (Esgob Ross) a llysgennad Mari, brenhines yr Alban yn gallu sefyll ei brawf yn Lloegr am gynllwynio yn erbyn y Frenhines Elisabeth, a thrwy hynny creu'r flaenoriaeth gyfreithiol bod Mari yn gallu sefyll ei phrawf, hefyd, gan greu'r llwybr cyfreithiol i gyfiawnhau ei dienyddio.

Gwasanaeth Seneddol

golygu

Bu Aubry yn aelod seneddol ar gyfer nifer o etholaethau seneddol gan gynnwys dwy yng Nghymru sef Bwrdeistrefi Caerfyrddin (1554) ac Aberhonddu (1558) yn ogystal â Hindon (1559), Arundel (1563), a Taunton (1592). Roedd yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau o 1586.[3] Roedd hefyd yn archwilydd a ficer-cyffredinol Caergaint o dan yr Archesgob Grindal, gan gadw ei swydd fel ficer-cyffredinol o dan Archesgob Whitgift.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Aubrey yn Llundain ym 1595 ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol wreiddiol San Pawl.

Cyfeiriadau

golygu
  • Ian W. Archer; Religion, Politics, and Society in Sixteenth-Century England; Cambridge University Press 2004; ISBN 9780521818674
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Gruffydd Hygons
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
15541554
Olynydd:
John Parry
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
anhysbys
Aelod Seneddol Aberhonddu
15581559
Olynydd:
Roland Vaughan